140 years of serving communities across Wales marked at Eisteddfod - Dathlu 140 o flynyddoedd yn gwasanaethu cymunedau ledled Cymru yn yr Eisteddfod

published on 30 Jul 2018

Eisteddfod-goers can come and learn about The Salvation Army and the work it has been doing in communities across Wales for the last 140 years, in Cardiff next month.

The Salvation Army opened its first church in Wales in Merthyr Tydfil in 1878 and since then the organisation has grown and now has 35 churches across the country.

A range of activities take place at Salvation Army churches – or ‘corps’ as they are known, including Sunday worship and some run mother and toddler groups and lunch clubs.

Some Salvation Army churches also run foodbanks and employment services to support people to find work.

The organisation – which is a church and a charity, has Lifehouses in Cardiff where people who have experienced homelessness can go to receive support to help rebuild their lives.

In Cardiff, The Salvation Army also operates several other projects which support people who are experiencing homelessness, including the Bus Project.

In Wrexham, Tŷ Dewr is a Salvation Army Lifehouse providing accommodation for up to 12 ex-service personnel who are either at risk or are experiencing homelessness.

Captain Deryk Durrant from The Salvation Army’s Aberystwyth Corps, this year’s event organiser said:

“Please come and visit us on stand 408 at this year’s National Eisteddfod of Wales in Cardiff Bay where you’ll find a warm welcome and get the chance to find out about The Salvation Army’s work in Wales over the last 140 years.

“You can learn how our members’ faith has been put into action to serve communities at our corps from Wrexham to Newtown, to Tenby to Newport and how we meet the needs of each individual area where we serve.

“We’ll also explain about the professional and expert services that we provide for people who in a vulnerable position – such as those who are experiencing homelessness or struggling with substance abuse.”

The Salvation Army’s stand at the national Eisteddfod of Wales will be located near the Norwegian Church on Harbour Drive in Cardiff Bay from 3 August to 11 August.

Anyone who comes to The Salvation Army will receive assistance based solely on their need and our capacity to provide help. 

We work with people who are vulnerable and marginalised and offer very practical help, unconditional assistance and support regardless of race, religion, gender or sexual orientation.

How The Salvation Army helps people:

Andy and Brian (not their real names) both received support at the Tŷ Gobaith Lifehouse in Cardiff.

“I took drugs and was a pain to people all my life but Tŷ Gobaith has changed me and I feel like I’m part of the world again” said Andy.

“Tŷ Gobaith is amazing – nobody else could have helped me before to come off drugs and that’s down to the people here because the staff are like your family. They make you feel welcome and the support the staff give you is amazing because they enjoy their jobs and you can see that on their faces.  They go out of their way and are giving us support because they want to and are not expecting anything back. I used to have big issues around trust, but I can talk to the staff here about anything.”

Speaking about how Tŷ Gobaith has changed his life, Brian said:

“My life was bad and I was in a dark place - I was taking crack and drinking and I always thought I’d be on drugs and alcohol forever. I once took an overdose – enough drugs to kill three people, and actually died for seven and a half minutes. That’s when I knew it was time to stop doing drink and drugs and start doing something with my life, because if I didn’t it was going to kill me.  I got onto the Bridge Programme at Tŷ Gobaith and when you come here you learn that drink and drugs don’t work and that there’s only one person who can change everything, and that’s you. Tŷ Gobaith were prepared to give me a chance and they saved my life.”

 

Dathlu 140 o flynyddoedd yn gwasanaethu cymunedau ledled Cymru yn yr Eisteddfod

Gall EISTEDDFODWYR ddod i ddysgu am Fyddin yr Iachawdwriaeth a’r gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru am y 140 o flynyddoedd diwethaf, yng Nghaerdydd fis nesaf.

Agorodd Byddin yr Iachawdwriaeth eu heglwys gyntaf yng Nghymru ym Merthyr Tudful ym 1878 ac ers hynny mae’r sefydliad wedi tyfu a bellach mae ganddyn nhw 35 o eglwysi ledled y wlad.

Mae ystod o weithgareddau yn digwydd yn eglwysi neu gorffluoedd Byddin yr Iachawdwriaeth, gan gynnwys addoliad ar y Sul ac mae rhai’n cynnal grwpiau mam a’i phlentyn a chlybiau cinio.

Mae rhai eglwysi Byddin yr Iachawdwriaeth hefyd yn cynnal banciau bwyd a gwasanaethau cyflogi i helpu pobl i ddod o hyd i waith.

Mae gan y sefydliad - sy’n eglwys ac yn elusen - ganolfannau byw yng Nghaerdydd lle gall bobl sydd wedi profi digartrefedd fynd i gael cymorth i ailadeiladu eu bywydau.

Yng Nghaerdydd, mae Byddin yr Iachawdwriaeth hefyd yn gweithredu nifer o brosiectau eraill sy’n cefnogi pobl sy’n profi digartrefedd, gan gynnwys y Prosiect Bws.

Yn Wrecsam, mae Tŷ Dewr yn ganolfan byw gan Fyddin yr Iachawdwriaeth sy’n darparu llety i hyd at 12 o gyn-weithwyr y lluoedd arfog sydd naill ai mewn perygl o golli eu cartref neu sydd eisoes yn ddigartref.

Meddai Capten Deryk Durrant o Gorfflu Aberystwyth o Fyddin yr Iachawdwriaeth ac sy’n trefnu’r digwyddiad eleni:

“Dewch i’n gweld ni ar stondin 408 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd lle cewch chi groeso cynnes a’r cyfle i gael gwybod mwy am waith Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru dros y 140 o flynyddoedd diwethaf.

“Gallwch ddysgu sut mae ffydd ein haelodau wedi cael ei roi ar waith i wasanaethu cymunedau yn ein corffluoedd o Wrecsam i’r Drenewydd ac o Ddinbych-y-pysgod i Gasnewydd a sut rydym yn diwallu gofynion pob ardal unigol lle rydym yn gwasanaethu.

“Byddwn hefyd yn egluro am y gwasanaethau proffesiynol ac arbenigol yr ydym yn eu darparu i bobl sydd yn agored i niwed - fel y rhai hynny sy’n profi digartrefedd neu sy’n brwydro yn erbyn camddefnyddio sylweddau.”

Bydd stondin Byddin yr Iachawdwriaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ger yr Eglwys Norwyeg ar Harbour Drive ym Mae Caerdydd o 3 i 11 Awst.

Bydd unrhyw un sy’n dod i Fyddin yr Iachawdwriaeth yn derbyn cymorth ar sail eu hangen a’n gallu ni i ddarparu help. 

Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n agored i niwed ac sydd wedi eu gwthio i’r cyrion ac yn cynnig help ymarferol, cymorth a chefnogaeth ddiamod beth bynnag yw’ch hil, crefydd, rhywedd neu duedd rhywiol. 

Sut mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn helpu pobl:

Derbyniodd Andy a Brian (nid eu henwau go iawn) gefnogaeth yng nghanolfan byw Tŷ Gobaith yng Nghaerdydd.

“Roeddwn yn cymryd cyffuriau ac roeddwn yn boendod i bobl drwy fy mywyd ond mae Tŷ Gobaith wedi fy newid i ac rwy’n teimlo fel petawn i’n rhan o’r byd eto,” meddai Andy.

“Mae Tŷ Gobaith yn anhygoel - ni allai unrhyw un arall fod wedi fy helpu i ddod oddi ar gyffuriau cyn hyn ac i’r bobl yn fan hyn mae’r diolch achos mae’r staff fel eich teulu. Maen nhw’n gwneud i chi deimlo’n gartrefol ac mae’r gefnogaeth mae’r staff yn ei rhoi i chi yn anhygoel achos maen nhw’n mwynhau eu swyddi a gallwch weld hynny ar eu hwynebau.  Maent yn mynd allan o’u ffordd ac yn rhoi cefnogaeth i ni achos dyna’u dewis nhw ac nid ydynt yn disgwyl unrhyw beth yn ôl. Roedd gen i broblemau mawr o ran ymddiried mewn pobl o’r blaen, ond fe alla i siarad â’r staff yn fan hyn am unrhyw beth.”

Wrth sôn am sut y mae Tŷ Gobaith wedi newid ei fywyd, meddai Brian:

“Roedd fy mywyd yn wael ac roeddwn mewn lle tywyll - roeddwn yn cymryd cocên ac yn yfed ac roeddwn wastad wedi meddwl y bydden i ar gyffuriau ac alcohol am byth. Gymerais i orddos un tro - digon i ladd tri pherson, ac fe wnes i farw am saith munud a hanner. Dyna pryd roeddwn yn gwybod ei bod yn amser rhoi’r gorau i’r yfed a’r cyffuriau a dechrau gwneud rhywbeth gyda fy mywyd, achos fel arall bydden nhw yn fy lladd i.  Fe ddes i’n rhan o’r Rhaglen Bridge yn Nhŷ Gobaith a phan ddewch chi yma fe ddysgwch chi nad yw alcohol a chyffuriau yn gweithio ac mai dim ond un person all newid popeth, a chi yw’r person hwnnw.  Roedd Tŷ Gobaith yn barod i roi cyfle i fi ac fe achubon nhw fy mywyd.”